Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 3 Mawrth 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
14.30 - 15.36 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Melding (Cadeirydd) Suzy Davies Mick Antoniw (yn lle Julie James) Eluned Parrott Simon Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
P Gareth Williams (Clerc) Ruth Hatton (Dirprwy Glerc) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Alys Thomas (Cynghorydd Cyfreithiol) Stephen Boyce (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant
Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie James AC. Dirprwyodd Mick Antoniw AC ar ei rhan.
2 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau statudol ac roedd yn fodlon arnynt.
2.1 CLA359 - Rheoliadau Citiau a Gwasanaethau Profi am HIV 1992 (Dirymu) (Cymru) 2014
2.2 CLA361 - Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio) 2014
3 Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
3.1 CLA362 – Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2013
Cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad ac i ysgrifennu at y Gweinidog ynghylch pwynt i gael eglurhad yn ei gylch.
3.2 CLA360 – Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2014
Cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gweddill y cyfarfod yn breifat.
4.1 Trafod yr adroddiad ar y Bil Tai (Cymru) drafft
4.2 Trafod Bil drafft Cymru
4.3 Ymchwiliad i ddeddfu yn y Pedwerydd Cynulliad